Ffarwel i blwy Llangywer
A'r Bala dirion deg:
ffarwel fy annwyl gariad
Nid wyf yn enwi neb:
'Rwy'n mynd i wlad y Saeson
A'm calon fel y plwm
I ddawnsio o flaen y delyn
Ac i chwarae o flaen y drwm
Ffarwel i'r Glyn a'r Fedw
A llethrau'r hen Gefn Gwyn
Ffarwel i'r Llan aà dwrw
A llwybrau min y llyn:
Wrth ganu'n iach i Feirion
Os yw fy llais yn llon
Yn swn ei hen alawon
O! y pigyn sy' dan fy mron
Ffarwel i fro fy mebyd
A'r aelwyd ore 'rioed
Ffawrel lechweddau hyfryd
A swil rodfeydd y coed:
Pan ar y maes yn brwydro
Neu'n glwyfus, gwan, a gwyw
Fy nhgalon fydd yn crwydro
Ar dy friniau tra byddaf byw
search Plethyn - Ffarwel I Blwy Llangywer Lyrics @
Google search Plethyn - Ffarwel I Blwy Llangywer Lyrics @
MSN search Plethyn - Ffarwel I Blwy Llangywer Lyrics @
Yahoo search Plethyn - Ffarwel I Blwy Llangywer Lyrics @
AOL